YDYCH chi’n hoffi canu ac yn ddisgybl ysgol uwchradd? Yn mwynhau cymdeithasu a chyfarfod â ffrindiau newydd? Yn hoffi bod ar lwyfan?

Ewch draw i sesiwn blasu Côr Cytgan Clwyd nos Iau, Hydref 10 o 6.30 tan 7.30 yng Nghapel y Fron, Ffordd y Rhyl, Dinbych lle bydd croeso cynnes iawn i chi ac fe gewch brofi’r mwynhad o gydganu hwyliog.

Mae’r côr yn canu amrywiaeth o ganeuon - o rai ysgafn, modern i’r clasurol a’r gwerin traddodiadol.

Sefydlwyd Côr Cytgan gan yr arweinyddes Ann Davies yn 2013 i gystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol Dinbych, ac enillwyd y gystadleuaeth i gorau ieuenctid ar yr ymgais cyntaf.

Enillodd y côr yn yr Eisteddfod Genedlaethol hefyd yn 2016. Yn yr un flwyddyn dyfarnwyd Cor Cytgan Clwyd yn Gôr yr Wyl yn yr Wyl Ban-Geltaidd yn Iwerddon ac eto yn 2017.

Daeth y côr i’r brig, gyda chlod arbennig gan y beirniaid, yn y Manchester Amateur Choral Competition yn 2018 – cystadleuaeth i gorau o bob cwr o Brydain.

Meddai Ann: “Ar ôl cyfnod prysur iawn yn perfformio yng Ngwyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru a’r cyngerdd i groesawu Eisteddfod yr Urdd 2020, mae’n bryd nawr i ddechrau ar flwyddyn newydd o weithgareddau.

"O hyn ymlaen, côr o leisiau soprano ac alto fydd y côr, gan fod nifer y lleisiau tenor a bas wedi gostwng.

"Bydd hi’n braf cael rhagor o leisiau i ymuno â’r aelodau presennol. Dewch yn llu!”